Rydyn ni’n gwerthu ystod eang o gynnyrch y goedwig, ac rydyn ni’n gweithio ar estyn ein dewis. Ar hyn o bryd rydyn ni’n datblygu ystod o nwyddau wedi eu creu o bren wedi ei lifio
Cynnyrch Y Goedwig
Pren wedi ei dorri i’r maint yr hoffech:
Conwydd Douglas/ Larch – ar gael un ai fel trawstiau hyd at 13meter o hyd neu mewn ystod o cladding (o waney edge, square cut boards i feather edge)- cynnyrch sy’n naturiol gryf.
Western Hemlock, Conwydd Norwyeg– hefyd ar gael ar gyfer gwaith mewnol.
Derw– torrir trawstiau a bordydd i’ch dewis.
Onnen/ Ffawydden – ar gael ar ofyn.
Nwyddau pren
Wedi eu gwneud o’n pren ein hunain gan ein saer coed ar ein safle ni, o feinciau picnic i ddrysau a ffenestri – cysylltwch gyda ni i drafod eich anghenion.
Coed tân
Pren caled neu feddal mewn llwythi rhydd. Rydyn ni’n dod a’r pren wedi ei dorri’n briodol mewn lori a’i ollwng yn nhriongl Gogledd Sir Benfro, De Ceredigion a Gogledd Sir Gaerfyrddin.
Casgliad o hadau coed
Mae pob rhywogaeth ar gael i ganolfannau coed ym mhob ardal gyda’r tystysgrifau meistr perthnasol trwy gytundeb.