Hanes y Goedwig

Mae coedwigaeth, fel amaethyddiaeth yn un o’r diwydiannau gwreiddiol. Mae’r angen am goed yn fythol o goed tân i fasgedi, mae pobl wastad wedi bod angen rheoli’r coetir o’u cwmpas i ddarparu ar gyfer eu hanghenion.

Dros filoedd o flynyddoedd o ddatblygiad, mae pobl wedi addasu’r coetiroedd o’u cwmpas i weddu eu hanghenion. Cyfeiria’r gair acer at faint y tir oedd ei angen i fwydo mochyn ar fes.

Erbyn yr oesoedd canol defnyddiwyd system soffistigedig drwy Brydain ac Ewrop lle byddai darnau o dir yn cael eu torri mewn cylchdro er mwyn cael y gorau allan o’r tir. Torrwyd cyll  ar gylchdro o saith mlynedd i’w ddefnyddio i glwydo defaid ymysg pethau eraill  a chafodd y dderwen ei thorri nôl pob 27 mlynedd ar gyfer, ffensio, rheilffyrdd a choed tân. Defnyddiwyd pob math o goed i wahanol ddibenion am eu bod yn berffaith i’r weithred honno, er enghraifft, cawsai’r llwyfen, y dderwen a’r onnen eu defnyddio i greu y gwahanol rannau o olwynion. Roedd pobl yn deall sut y gweithia’r gwahanol goed a gallai crefftwyr sgiliedig droi pren i beth bynnag oedd ei angen.

Gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol, daeth nwyddau a sgiliau amgenach i’r sgiliau hyn, ac erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf gymaint oedd yr angen am goed fel y torrwyd hwy allan o’u cylchdro ac yn amlach.

Sefydlwyd comisiwn goedwigaeth wedi’r rhyfel i aildyfu coed a rheoli anghenion y dyfodol. Rhoddwyd pwyslais ar goed coniffer bytholwyrdd a fyddai’n tyfu’n gyflym felly’n darparu pren yn gynt. Cynyddodd hyn wedi’r Ail Ryfel Byd a dechreuodd beiriannau gymryd lle’r crefftwyr lleol ac fe gollwyd llawer o’r hen sgiliau traddodiadol gan adael unigolion ar ôl oedd dal yn meddu arnynt.

Erbyn heddiw mae technoleg wedi datblygu fel taw dim ond dau weithiwr sydd ei angen i dorri, prosesu a symud niferoedd anferth o goed pob dydd, a hyn oll mewn caban rhyw beiriant. Ar sawl lefel mae hyn yn gynnydd cadarnhaol gan ei fod yn achosi ychydig iawn o niwed i’r ddaear, yn cynhyrchu cynnyrch o safon uchel iawn ac mae’n ddiwydiannol tu hwnt.

Anghenion y dyfodol

Felly os yw popeth yn mynd mor dda, pam ydyn ni’n newid Ffynone’n ôl i goed collddail ac ail gyflwyno systemau torri nôl er mwyn cynaliadwyedd?

Credwn fod y system yn gweithio’n dda dan amgylchiadau canolog, diwydiannol neu filwrol, ond credwn fod y system o dorri nôl er mwyn cynaliadwyedd yn fwy addas i ardal leol lle mae olew yn brin a gweithwyr yn llu. Mae ein systemau ni yn ystyried yr ardal leol, caiff y coed eu torri’n rheolaidd fel nad ydynt yn tyfu mas o reolaeth pobl arferol. Maen nhw’n cynhyrchu cynnyrch sy’n addas i anghenion pobl, ac wrth ddatblygu ystod o rywogaethau fe gryfheir y tir i fod yn fwy cynaliadwy.

Wrth gwrs bydd yn rhaid i ni ddysgu llawer o sgiliau newydd er mwyn cynhyrchu cynnyrch mwy cymhleth megis clocsiau neu olwynion, ond os yw deunyddiau crai yn tyfu siawns y gallwn ni ail ddysgu sgiliau.

Mae gan goedwigoedd ôl troed ecolegol gadarn yn barod.

Mae’r holl ddwli am ôl troed carbon a chyfnewid carbon yn cael ei fynegi gan unigolion sy’n gwrthod newid eu ffordd o fyw. Credant fod y system o gyfnewid eu defnydd o garbon gyda rhywun sydd ddim yn defnyddio carbon yn cadarnhau eu ffordd o fyw. Mae’n dda gwybod bod y coedwigoedd yn gynaliadwy naturiol yng ngwir ystyr y gair.

Mae pobl wedi llwyddo i gynnal coed drwy bob oes ac yn sicr bydd hyn yn parhau. Ond i’r rhai sydd â diddordeb mewn ffigyrau, cynhaliwyd astudiaeth gan Sandy Greig yn 2006 ar effaith y goedwig fwyaf yn y Deyrnas Unedig sef Keider. Mae Keider yn 62,000 o hectarau (155,000 o aceri) a chynhyrcha 400,000 tunnell o bren yn flynyddol ac felly angen ailblannu 3 miliwn o goed . Mae hyn yn cloi 300,000 tunnell o garbon deuocsid pob blwyddyn tra bod gwaith coedwigol yn cynhyrchu dim ond tua 7,000 tunnell o garbon deuocsid yn flynyddol.

Rhaid cofio hefyd fod gan bren sawl defnydd gwahanol ac os na losgir e mae’n parhau i gloi’r carbon. Wrth ei losgi, dim ond y carbon modern caiff ei ryddhau, nid y carbon hynafol megis glo ac olew. Os defnyddir yn lleol yn lle dur neu concrid yna mae mantais ychwanegol gan nad oes angen ei gloddio na’i brosesu.

Dyna pan rydyn ni’n credu mewn coed, boed yn rhai conwydd wedi ei medi’n effeithiol a’u gwerthu’n lleol neu systemau torri nôl er mwyn cynaliadwyedd sydd ill dau yn golygu fod y coed yn dal i dyfu.

Felly beth am estyn ein cariad at y byd fel canghennau ein coed a phlannu coeden.


© 2019 Calon yn Tyfu Cyf. | Rhif. Cofrestredig 3176209
Gwefan wedi’i dylunio gan Rhiannon Evans