Coetiroedd Ffynone a Chilgwyn 

Lleolir y coetiroedd yng Ngogledd Sir Benfro. Tua saith milltir i’r de o Aberteifi mewn cwm tawel. Estynnent hyd tua 325 o aceri erbyn hyn a phan brynon ni nhw yn 2006 roedd tua 170 acer o blanhigfa ar goetir hynafol (PAWS), 30 acer o goetir hynafol, a thua 125 acer o blanhigfa ar dir a fu’n dir amaethyddol. Ers hynny rydyn ni wedi clirio tua 50 acer o’r planhigfeydd a’u hail blannu gyda choed collddail. Collon ni wedyn 100 acer i storm wynt yn 2014 a blannwyd fel coed collddail yn 60% a choed bythwyrdd yn 40%. Golyga hyn nawr fod rhan helaethaf y coetir nawr yn gollddail gydag ystod eang o rywogaethau ac oed.

Yn estyn o ddyffryn llawr gwastad i ochrau serth rheda pedair afon trwy’r coetir. Mae yno raeadr hefyd a gweddillion coetiroedd hynafol gan gynnwys coed hynafol derw sydd wedi eu lleoli gan fwyaf o gwmpas yr afonydd. Mae’r lleoliad yn SSSI a hefyd yn SAC.

Rhan o ystâd plasty Ffynone oedd y coetir yn wreiddiol ac yn cynnwys coetir brodorol, sef yn bennaf derw yn hytrach na phrysgoed ond hefyd plannwyd nifer o gonwydd yn y 1780au.

Yn y 50au rhannwyd yr ystâd, a chliriwyd y safle a’i blannu gyda chonwydd fel planhigfa. Ar yr un pryd, defnyddiwyd peth o’r fferm dir ar waelod y dyffryn gan y ffermydd tenant er mwyn creu’r coetir mwy helaeth a welwn heddiw. Ers prynu’r coetir rydyn ni wedi dilyn polisi fod y ddaear wastad dan orchudd wrth deneuo’r coed. Dewison ni glirio conwydd Norwyeg yn 2008 am ei fod yn ansefydlog yn naear clai llawr y dyffryn a chwythwyd y gweddill gan storm wynt 2014. Mae conwydd Douglas yn fwy sefydlog ac wedi ymateb yn dda i’r teneuo ar ochrau caregog y dyffryn. Rydyn ni hefyd wedi plannu dros 10,00o o goed cnau a ffrwythau er mwyn datblygu coedwig fwytadwy ar raddfa fawr.

Rhoddwyd y grant Cyd Coed i ni ar y ddealltwriaeth y byddwn yn rhedeg prosiect amlochrog dros ugain mlynedd. Rhan o raglen y Comisiwn Goedwigaeth  yw datblygu’r syniad o goetir i’r gymuned, lle anogir y bobl leol i gymryd rhan mewn prosiectau sy’n datblygu cynaliadwyedd lleol. O dan y pennawd ‘Y Goedwig I Bawb /Woods for All’ mae gyda ni safleoedd rydyn ni wedi bod yn eu datblygu.

Mae mynediad cyhoeddus yn elfen allweddol o bwysig i ni. O ganlyniad rydyn ni wedi cynyddu a gwella’r mynediad o fewn y coetiroedd. Golyga hyn sawl maes datblygu. Mae mwy o leoedd parcio, a gwastatawyd y fynedfa ar gyfer ymwelwyr h?n a llai abl. Rhoddon ni fwy o feinciau yn rheolaidd ar hyd y llwybrau. Creon ni lwybrau newydd sy’n cysylltu gyda’r rhai oedd eisoes yno, sy’n addas i gerddwyr o bob gallu.  Gweithredoedd coedwigol sydd wedi gyrru’r prosiect yma yn ei flaen a dyma sut rydyn ni wedi trawsnewid amgylchedd y coetir ac ariannu’r gwaith. Dilynwn ein polisi o orchuddio’r coetir ac rydyn ni’n symud tuag at rywogaethau ac oed coed ehangach fel bod ystod gynyddol o anghenion y gymuned leol yn cael eu hateb o fewn y coetir gyda’r bwriad o fedru darparu mor lleol â phosib.

Cynaliadwyedd yw ein prif nod a chredwn fod angen atebion amgenach. Rydyn yn ymwybodol o faterion megis olew peak (peak oil) a newidiadau yn y ddaear (earth change) fydd yn cael effaith uniongyrchol ar ein bywydau ni oll. Drwy addasu ein hagweddau i fyw a gweithio teimlwn y byddwn yn medru arwain drwy esiampl. O fewn coedwigaeth teimlwn fod angen symud oddi wrth gnydau sydd angen offer arbennig i’w medi a’u prosesu, tuag at rai sydd yn cynnig cyfle i bobl leol gyfrannu.  Rydyn ni’n defnyddio pob opsiwn sydd ar gael ar hyn o bryd sydd yn hybu naturioldeb gwreiddiol y safle ynghyd a llwybrau oedd eisoes yno yn hytrach na thorri rhai newydd. Pan fo newidiadau yn gorfod digwydd rydyn ni wedi cynllunio’r coetir fel y gallwn ddefnyddio bwyelli a cheffylau. Yn y cyfamser rydyn ni wedi hyfforddi pobl i weithio yn y coetir ac wedi bod yn datblygu busnes cynaliadwy wedi ei selio ar ychwanegu at werth y gwahanol gynnyrch sydd ar gael drwy’r coed rydyn yn eu medi.

Roedd y cyfnod cyntaf sef y deng mlynedd gyntaf yn ffocysu ar gysylltu â chyd weithio gyda’r gymuned gan redeg cyrsiau, paratoi isadeiledd y ffyrdd yn y goedwig, ffensio, teneuo a chlirio planhigfeydd. Daeth diwedd i’r cyfnod cyntaf hwn i ni gyda storm wynt 2014 a’r ddwy flynedd y cymerodd i dacluso, chywiro ac ailosod elfennau a ddinistriwyd.

Wedi i un aelod adael oherwydd salwch ac i aelod arall farw dechreuodd yr ail gyfnod. Bu’n rhaid i ni feddwl yn ddwys am beth i’w wneud nesaf. Dechreuon ni drwy edrych am weithwyr newydd a chyfeiriad newydd, a datblygu’r felin goed i ychwanegu gwerth i’r conwydd Douglas mawr oedd angen eu teneuo ynghyd a datblygu ein gallu ar y safle i ychwanegu gwerth. Mae’n flaenoriaeth gennym i gynyddu cyfleoedd pobl leol i fod yn rhan o’n gwaith.  Rydyn ni wedi dechrau hynny drwy ddatblygu llwybrau arbennig i feicio mynydd, a dros amser gobeithiwn ychwanegu prosiectau eraill megis dyfnhau’r llyn a rhoi’r silt ar gaeau lleol. Hoffwn hefyd adfer yr hydro a defnyddio’r ffynnon drydan.

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am beth rydyn yn ei wneud, yna cysylltwch â ni.


© 2019 Calon yn Tyfu Cyf. | Rhif. Cofrestredig 3176209
Gwefan wedi’i dylunio gan Rhiannon Evans