Wrth i’r prosiect hwn ddatblygu, bydd amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gael. Rydym yn gobeithio datblygu rhwydwaith o wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn helpu i symud y prosiect hwn ymlaen a dysgu neu wella sgiliau yr un pryd.
Rydym yn gobeithio gwella ymddangosiad cyffredinol y coed drwy adfer rhai o’r waliau cerrig sydd wedi’u difrodi a gosod rhai gwrychoedd. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, hwn fydd ein man cychwyn mae’n bur debyg.
Rydym yn chwilio am athrawon sydd â sgiliau coetir ac sy’n arbenigwyr yn eu maes, yn ogystal ag athrawon sgiliau coed neu grefft cysylltiedig, sy’n fodlon ac yn gallu cynnal cyrsiau. Ffoniwch ni i drafod hyn os gwelwch yn dda.
Mae gennym gyfleoedd gwaith cyflogedig yn aml ar gyfer y rhai â sgiliau ac agwedd berthnasol. Anfonwch eich CV atom, yn datgan pam fod gennych ddiddordeb.
Rydym hefyd yn chwilio am bobl i gasglu hadau yn Ne’r Alban. Gwaith tymhorol fydd hwn fel rheol, rhwng misoedd Medi a Rhagfyr bob blwyddyn.
Ar gyfer unrhyw rai o’r uchod, cysylltwch â ni.
English

